Posted: Thu 1st Jun 2017

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2017

Wrexham.com for people living in or visiting the Wrexham area
This article is old - Published: Thursday, Jun 1st, 2017

Bydd Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, a gynhelir yng nghanol tref Wrecsam, ddydd Mercher 2 Awst rhwng 12pm a 4pm, ar Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf (cae Neuadd y Dref).

Gwahoddir pobl o bob oedran gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn a phobl ifanc, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, i ymuno yn y digwyddiad hwyliog rhad ac am ddim hwn.

Bydd sefydliadau o bob rhan o Wrecsam, sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae, yn dod ynghyd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae, gan gynnwys hen ffefrynnau megis pwll tywod enfawr, cyfle i daflu dŵr a chwarae â sothach a siglenni rhaff.

Bwriad y digwyddiad hwn yw pwysleisio hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymunedau lleol. Wrth wneud hyn, mae digwyddiad diwrnod chwarae Wrecsam yn rhan o ymrwymiad parhaus yr awdurdod lleol i geisio sicrhau bod pob plentyn ar draws y fwrdeistref sirol yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae.

Y llynedd, daeth tua 3000 o bobl i ymweld â digwyddiad Diwrnod Chwarae ac rydym yn gobeithio y bydd digwyddiad eleni yn fwy ac yn well, ond yr unig ffordd y gall hynny ddigwydd yw os ddaw pobl draw i ymuno yn yr hwyl. Y cyfan rydym ni’n ei ofyn i chi yw dod yn barod i gael hwyl gyda dillad y gallwch eu gwlychu a’u baeddu. Yn y gorffennol mae teuluoedd wedi dod â phicnic er mwyn aros drwy’r prynhawn!

I gael gwell syniad am y mathau o bethau sy’n digwydd yn ystod Diwrnod Chwarae, ewch i: a chliciwch ar ddolen Diwrnod Chwarae i weld lluniau o’r digwyddiadau blaenorol.



Spotted something? Got a story? Email [email protected]



Have a look at...

Council say “time to look at future” of Queensway trees due to ‘instability’

Popular ‘Coffee and Chat’ Group has launched in Wrexham

“Lovely atmosphere on procession” as Eisteddfod welcomed to Wrexham

North Wales MS backs campaign for law to create a smoke free Wales

Here is a chance to land your dream job as a rhino keeper at Chester Zoo

North Wales university using VR to give students valuable insight into coercive control

West End queen packs her running shoes for Llangollen Eisteddfod return!

Urgent calls for Welsh Water improvement amid environmental concerns

Mental health charity and Chirk café join forces to raise awareness of suicide prevention

70-year-old completes Wrexham 10k after overcoming mobility challenges

North Wales Police volunteers celebrated at awards ceremony

North Wales Police’s new Stalking Co-ordinator enhancing victim support